Mae Tîm Plismona Cymdogaeth 1 Taf wedi atafaelu moped a oedd yn cael ei yrru mewn modd gwrthgymdeithasol, ac mae ein tîm wedi ymgysylltu â'r gyrwyr/ceidwad cofrestredig ac wedi delio â nhw'n briodol trwy ddefnyddio adran 59 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002. Yn ôl y wybodaeth a dderbyniwyd gennym, roedd y moped hwn yn cael ei ddefnyddio gan amrywiol bobl i gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosi niwsans i aelodau ein cymuned, yn enwedig yn ardal Bryncae a'r ganolfan gymunedol. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi cymryd camau cadarnhaol a thynnu'r moped hwn oddi ar y ffordd ddoe. Ni fyddwn yn goddef yr ymddygiad hwn na'r defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau, a byddwn yn defnyddio pob offeryn sydd ar gael i ni i fynd i'r afael â'r broblem. Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod yn gwrando ar eich pryderon ac yn cymryd camau cadarnhaol. Byddwn yn mynd ar drywydd troseddwyr a'r rhai sy'n ceisio achosi niwed yn ein cymunedau yn ddi-baid. |